Jon Roberts photo

Mae Jon Roberts yn gweithio ym maes TG ac yn byw yn Abertawe gyda'i wraig, Sarah, a'i ferch Kya.

Cyhoeddodd Jon ei lyfr cyntaf, Through the Eyes of Me, ym mis Awst 2017 fel teyrnged i'w ferch 4 oed, Kya, a oedd wedi derbyn diagnosis o awtistiaeth ddifrifol.

Mae ei ail lyfr, Through the Eyes of Us, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2019, yn canolbwyntio ar berthynas Kya â'i ffrind Martha, sydd hefyd ar y sbectrwm awtistig.

Llyfr lluniau tyner a llawn gwybodaeth yw trydydd llyfr Jon, See What I Can Do!. Mae'n adrodd straeon nifer o blant ag amrywiaeth o wahaniaethau a chafodd ei ysbrydoli gan brofiadau bywyd go iawn ei ferch a rhai o'i ffrindiau.

Jon Roberts - Through the Eyes of Me

'Through the Eyes of Me' gan Jon Roberts

Mae Through the Eyes of Me yn llyfr hardd gyda lluniau lliwgar i blant sy’n rhoi cipolwg ar fyd plentyn ag awtistiaeth. Bydd darllenwyr yn cwrdd â Kya, 4 oed, sydd wrth ei bodd yn rhedeg, darllen, edrych ar sticeri... a’u rhwygo. Dysgwch pam mae Kya yn gwneud rhai pethau, pam nad yw’n hoffi rhai pethau, ac yn wir, pam mae hi wrth ei bodd â phethau eraill.

Mae’r llyfr gwych hwn yn adnodd delfrydol a gafaelgar ar gyfer dysgu plant am awtistiaeth ac am fywyd fel plentyn ag awtistiaeth. Ysgrifennwyd Through the Eyes of Me gan Jon Roberts pan gafodd ei ferch 4 oed, Kya, ddiagnosis o awtistiaeth ddifrifol. Drwy gofnodi a rhannu chwiwiau hyfryd Kya, mae Jon a’i wraig Sarah yn gobeithio helpu i annog gwell dealltwriaeth ymhlith brodyr a chwiorydd, cyd-ddisgyblion.... unrhyw un, yn wir... sy’n adnabod rhywun ar y sbectrwm awtistiaeth.

Cafodd Through the Eyes of Me le ar restr hir Gwobr Llyfr Lluniau Amrywiaeth Cogan 2019.

Jon Roberts - 'Through the Eyes of Us'

'Through the Eyes of Us' gan Jon Roberts

Mae Through the Eyes of Us yn llyfr lluniau hardd sy’n rhoi cipolwg ar fyd plant ag awtistiaeth.

 Yn ail lyfr y gyfres, mae Kya bellach yn mynd i’r ysgol ac mae ganddi ffrind gorau, Martha, sydd hefyd ar y sbectrwm awtistig ond sy’n mynegi ei hun mewn ffordd wahanol iawn. Tra bod Kya yn dawel yn y dosbarth, mae Martha’n siaradus ac yn gofyn llawer o gwestiynau. Mae’r ddwy yn mwynhau’r teimlad o fwyta, ond dydy Martha ddim yn deall ei bod hi’n gallu bwyta gormod. Mae’r ddwy yn hoffi trefn pan ddaw hi’n amser gwely, ond tra bod Kya yn gallu dal i fynd nes mae hi’n hwyr, mae Martha’n gwybod pan mae hi wedi blino ac mae’n mynd i’w gwely ei hun.