Owen Shhers

Mae Owen Sheers yn fardd, yn awdur ac yn ddramodydd. Perfformiwyd ei oratorio i blant ar newid yn yr hinsawdd, The Water Diviner’s Tale, yn y BBC Proms yn 2007 ac mae hwn bellach yn brosiect addysg parhaus gydag Opera North. Mae ei waith arall i blant yn cynnwys addasu Mimi and the Mountain Dragon  gan Michael Morpurgo a The Snow Spider  gan Jenny Nimo ar gyfer y teledu.Mae Owen yn athro mewn Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n gyd-sefydlydd Coleg y Mynydd Du, sef coleg newydd sy’n canolbwyntio ar ddyfodol cynaliadwy. Mae’n noddwr i STAMMA a The Children’s Book Show ac mae’n byw yn y Mynydd Du yng Nghymru gyda’i ddwy ferch. 

'Drew, Moo and Bunny, Too' - Owen Sheers

'Drew, Moo and Bunny, Too' gan Owen Sheers. Darluniwyd gan Helen Stephens

Stori delynegol hyfryd am fachgen bach a’i ddau ffrind gorau, wedi’i hadrodd mewn penillion hudolus gan y bardd enwog Owen Sheers ac wedi’i darlunio’n wych gan yr artist arobryn Helen Stephens.

Mae’r bardd Owen Sheers a’r darlunydd arobryn Helen Stephens wedi creu stori bachgen bach o’r enw Drew sy’n cychwyn ar antur gyda’i ffrindiau gorau, Bunny a Moo. Wrth i’r tri hedfan o gwmpas y byd ar fat hud, dan bŵer eu cyfeillgarwch, maen nhw’n cyfarfod â môr-ladron a phlymio i helynt ar y môr tywyll. A fydd y tri ffrind gorau’n gallu dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnyn nhw i ddychwelyd adref?