Lee Newbery

Mae Lee Newbery yn byw gyda'i ŵr, ei fab a'i gi mewn tref ar lan y môr yng ngorllewin Cymru. Yn ystod y dydd, mae'n helpu pobl fregus i chwilio am swyddi a meithrin sgiliau newydd, a chyda'r nos mae'n eistedd wrth ei liniadur i ysgrifennu.

Ei lyfr cyntaf, The Last Firefox, oedd Llyfr Plant y Mis Waterstones a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfrau Plant Waterstones 2023.

Mae Lee yn mwynhau mynd ar anturiaethau, yfed paneidiau di-rif o de, ac fel mae'r Cymry'n ei ddweud, roi 'cwtsh' da i'w gi.

Lee Newbery - The Last Firefox

'The Last Firefox' gan Lee Newbery

Enillydd categori Dewis y Bobl Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru! Stori galonogol am deulu, cyfeillgarwch a chanfod eich fflam fewnol.

Rhwng bwlis yn yr ysgol a newidiadau gartref, mae bywyd pob dydd bach yn frawychus i Charlie Challinor. A phan ddaw'n warcheidwad llwynog bach blewog o'r enw Cadno, mae pethau'n dod yn llawer mwy brawychus.

Achos mae Cadno yn fwy na llwynog arferol: mae'n llwynog tân - yn hollol unigryw - ac mae heliwr arswydus yn ei ddilyn o fyd arall.

Wedi'i dynnu i antur annisgwyl i amddiffyn ei ffrind fflamadwy, bydd angen dewder ar Charlie nad oedd yn gwybod ei fod ganddo i achub y llwynog tân olaf. . .

'Comic, adventurous and charming' - Guardian

'Magical' - Sunday Express

'Funny, sweet and charming - a real delight!' Sam Copeland, awdur Charlie Changes Into a Chicken

'Utterly gorgeous storytelling, adorable characters and a blazing adventure - The Last Firefox will long burn bright in your heart.' Jenny Pearson, awdur The Super Miraculous Journey of Freddie Yates

'Crackles with adventure and love.' Maria Kuzniar, awdur The Ship of Shadows.

'Lee Newbery gives us an enchanting fantasy adventure as warm as a firefox's tail. Heart and humour abound in this fun, fast-paced story of how a boy finds inner strength by helping a magical creature. A joyous gem!' Lesley Parr, awdur The Valley of Lost Secrets

'A heart (and tail!) warming adventure about family, friendship and one flamin' cute fox cub' Thomas Taylor, awdur Malamander

'The First Shadowdragon' gan Lee Newbery

'The First Shadowdragon' gan Lee Newbery

Mae pob chwedl yn dechrau yn rhywle...

Ar ôl trechu'r Grendilock cythreulig, ac achub Cadno, y llwynog tân olaf, mae Charlie Challinor yn edrych ymlaen at hoe haeddiannol.  Ond pan fydd wyneb cyfarwydd yn ymddangos o deyrnas Fargone, mae teulu Charlie unwaith eto'n rhan o'r antur.

Ynghyd â Lippy, Roo a'r ffrind hudol newydd Blodyn, rhaid i Charlie deithio i Fargone i wynebu'r Ddraig frawychus, yr anghenfil cysgodol sy'n sugno bywyd o'r tir yn araf - a datgelu'r gyfrinach goll sy'n cysylltu hanes y Ddraig â hanes Charlie ei hun. . .

Y dilyniant hudol i The Last Firefox, un o'r llyfrau gorau i blant yn 2022