Catherine Fisher photo

Mae Catherine Fisher yn fardd ac yn awdur nofelau arobryn i blant, a hi oedd Bardd  Ieuenctid cyntaf Cymru. Enillodd Catherine Wobr Tir na n'Og WBC ddwywaith, ac roedd ei nofel ffantasi i oedolion ifanc, Incarnation, yn un o werthwyr gorau'r New York Times a Llyfr y Flwyddyn The Times. Mae hi wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Smarties ac fe gyrhaeddodd nofel ddiweddar, The Clockwork Crow, restr fer Gwobr Blue Peter. Llyfr diweddaraf Catherine i blant yw The Red Gloves and Other Stories, sef casgliad arbennig o straeon rhyfedd ac iasol.

Catherine Fisher - The Red Gloves and Other Stories

'The Red Gloves and Other Stories' gan Catherine Fisher

Enwebwyd ar gyfer Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu 2023

Mae dau lys-frawd yn rhannu un hunllef; menig coch sy’n estyn am eich gwddf; ystafell newid lle mae dieithryn yn gofyn am gyfnewid bywydau gyda chi; a phwy yw’r ysbryd yn y glaw? Dyma adroddwraig straeon arbennig sy’n creu naw darn hudolus. Ofn yn gymysg â ffraethineb, calon a hud.