Huw Lewis-Jones photo

Mae Huw Lewis Jones yn awdur sydd hefyd yn archwiliwr pegynol ac yn naturiaethwr sydd wedi bod yn ffodus i gwrdd â llawer o eirth yn eu cynefin naturiol. Mae'n Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Falmouth, yn addysgu hanes naturiol, ac mae wedi ysgrifennu llyfrau hanes am ffotograffiaeth, mynyddoedd iâ, mynyddoedd a mapiau. Ef yw awdur y gyfres lyfrau Bad Apple hefyd. Darlunydd sy'n byw yn Glasgow, yr Alban, yw Sam Caldwell. Astudiodd baentio yng Ngholeg Celf Caeredin ac mae wedi darlunio pedwar llyfr i blant, gan gynnwys Weird, Wild, Amazing!

Huw Lewis-Jones - Do Bears Poop in the Woods?

'Do Bears Poop in the Woods? gan Huw Lewis-Jones

Fyddech chi'n gwybod y gwahaniaeth rhwng panda ac arth wen? Neu rhwng arth Malaia ac arth weflog? Dilynwch eich tywysydd maes arbenigol wrth i ni deithio ymhell i mewn i'r coed i ddysgu popeth am eirth.

Mae eirth yn gyfarwydd i ni i gyd, ond efallai nad ydych chi'n sylweddoli, y tu hwnt i'r ddelwedd o greaduriaid mawr, ffyrnig, fod anifeiliaid gwyllt sydd wir angen ein help ni. Felly, gwisgwch eich esgidiau cerdded, cydiwch yn eich binocwlars, a dewch ar daith i weld yr wyth rhywogaeth arth anhygoel yn y gwyllt. Yn ogystal â darganfod pam mae eirth yn gwneud cymaint o bŵ, byddech chi hefyd yn dysgu sut i osgoi cael eich bwyta gan un, a beth gallwn ni ei wneud i'w gwarchod.