Stephanie Burgis photo

Mae Stephanie Burgis yn byw yng Nghymru gyda'i gŵr, eu dau fab a'u cath frech, wedi'u hamgylchynu gan fynyddoedd a chestyll. Mae hi'n ysgrifennu anturiaethau ffantasi MG, ac yn fwyaf diweddar y drioleg Dragon with a Chocolate Heart a The Raven Heir. Mae byd The Raven Heir (a'r llyfr dilynol sydd ar ddod, The Raven Throne) wedi'i ysbrydoli'n uniongyrchol gan dirwedd Cymru a'r hanes y tu ôl iddi, gydag ardaloedd lleol megis coetiroedd Coed Cefn a Chastell Rhaglan yn helpu i greu'r ysbrydoliaeth am y tiroedd chwedlonol sy'n cael eu harchwilio yn y ddwy nofel ffantasi

Stephanie Burgis - The Raven Heir

'The Raven Heir' gan Stephanie Burgis

Mae Cordelia a’i brawd a chwaer Giles a Rosalind – sy’n dri gefaill – wedi byw’n ddiogel yn y castell yng nghanol y goedwig ar hyd eu hoes, wedi’u hamddiffyn gan swynion eu mam. Yr unig dro y mae Cordelia yn teimlo’n wirioneddol rydd yw pan fydd hi’n troi’n was y neidr neu’n aderyn du ac yn hedfan y tu hwnt i’r waliau cerrig mawr. Ond un diwrnod, mae’r byd mawr tu allan yn dod atyn nhw. Mae dau ddug gelyniaethus a’u milwyr wedi dod i gipio’r tri gefaill – oherwydd mai’r hynaf o’r tri yw etifedd yr orsedd.

Ond mae eu mam yn gwybod, ers torri’r goron, nad oes neb wedi gallu rheoli teyrnas Corvenne a byw, a dydy hi ddim yn fodlon rhoi’r fath faich ar ysgwyddau yr un o’i phlant. Pan mae’n gwrthod datgelu pa blentyn yw’r hynaf, mae’n cael ei charcharu, ac mae Cordelia, Giles a Rosalind ar ffo mewn byd newydd peryglus. Wrth iddyn nhw deithio ar draws Corvenne i achub eu mam, mae Cordelia yn dechrau gweld bod hud dwys ar waith, gan ei gyrru tuag at dynged a allai rwygo ei theulu ar wahân, dwyn ei rhyddid am byth neu, efallai, iachau teyrnas sydd wedi’i dinistrio gan ryfel sy’n parhau ers cenedlaethau.

Stephanie Burgis - The Raven Throne

'The Raven Throne' gan Stephanie Burgis

Mae Cordelia wedi cael ei choroni’n frenhines, ond gyda’r grym newydd daw perygl newydd. Y dilyniant diguro i The Raven Heir a chyfrol glo’r gyfres ffantasi epig i ddisgyblion ysgol ganol sy’n berffaith ar gyfer selogion Abi Elphinstone a Piers Torday.

Ar ôl i’w chwaer Cordelia ddod yn frenhines, gwyddai Giles a Rosalind y byddai’n rhaid iddyn nhw ddysgu bihafio yn y llys. Dim mwy o ymladd i Rosalind a dim mwy o ganu i Giles. Ond wnaethon nhw ddim rhagweld y byddai’n rhaid iddyn nhw atal cynllwyn yn erbyn eu chwaer.

Wrth i Cordelia syrthio i gwsg hudolus na ellir ei deffro ohono, mae’n rhaid i Rosalind a Giles grwydro’r deyrnas i geisio cymorth gan eneidiau hynafol y wlad. Ond mae gelynion mwyaf y teulu yn llechu ym mhob twll a chornel, a bydd angen holl gryfderau’r tri gefaill i ymladd yn eu herbyn.

Diweddglo gwefreiddiol i’r gyfres hudolus a chyfriniol.