Victoria Williamson photo

Mae Victoria Williamson yn awdur llyfrau plant arobryn ac yn athrawes ysgol gynradd o'r Alban. Ar ôl astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Glasgow, aeth ar drywydd ei hanturiaethau ei hun yn y byd go iawn drwy addysgu plant a hyfforddi athrawon ym Malawi, Cameroon a Tsieina, a gweithio gyda phlant ag anghenion cymorth ychwanegol yn y DU. Yn y gorffennol, bu'n gwirfoddoli fel tiwtor darllen gyda'r elusen The Book Bus yn Zambia a hi yw Noddwr Darllen bellach gyda'r elusen CharChar Literacy i hyrwyddo addysgu ffoneg yn y blynyddoedd cynnar ym Malawi. Mae Victoria yn frwd dros greu bydoedd cynhwysol yn ei nofelau lle gall pob plentyn weld ei hun yn cael ei gynrychioli. Mae ei llyfrau wedi ennill Gwobr Ffuglen i Blant Bolton yn 2020 a 2021, yn ogystal â chyrraedd y rhestr hir am Wobr Branford Boase a Gwobr Llyfr Plant Waterstones. Bydd ei llyfr diweddaraf, Feast of Ashes, yn cael ei gyhoeddi gan Neem Tree Press ym mis Hydref 2023.

Victoria Williamson -Feast of Ashes

'Feast of Ashes' gan Victoria Williamson

Yn y flwyddyn 2123, mae Adina, sy’n 16 oed, newydd ladd bron pawb mae hi’n ei adnabod. 14,756 ohonyn nhw.

 hithau wedi’i magu yn Eden Five, eco-swigen yn nwyrain Affrica, mae hi’n credu bod y byd i gyd wedi cael ei ddinistrio gan drychinebau ecolegol a achoswyd gan drachwant dynol am elw. Pan mae camgymeriad blêr Adina yn arwain at danchwa sy’n llosgi Eden Five i’r llawr, rhaid iddi hi a grŵp bach o oroeswyr fentro i’r tiroedd diffaith y tu allan i adfail y gromen i gyrraedd y noddfa cyn i’w biohidlwyr grebachu a’u DNA ddechrau newid yn yr aer gwenwynig.

Cyn bo hir, maen nhw’n darganfod nad yw’r tiroedd diffaith mor ddiffaith â’r hyn ddywedwyd wrthyn nhw, ac mae cyfrinachau ofnadwy yn cael eu datgelu ar y daith beryglus. Wrth i amser basio, mae’n rhaid i Adina ymgodymu â’i heuogrwydd a’i theimladau tuag at ei dau ffrind, gan gadw’i phen yn ddigon hir i gael ei chwiorydd ifanc i’r noddfa. A fydd hi’n llwyddo, neu a fydd y Nomalies yn ei dal hi gyntaf?

Gyda thema amgylcheddol gref, a rhybuddion am beryglon crafangau corfforaethol, mae Feast of Ashes yn llawn cyffro wrth fwrw golwg ddwys ar deulu, cyfeillgarwch, rhamant ac aberth.