Nicola Davies photo

Nicola Davies yw awdur mwy nag 80 o lyfrau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys barddoniaeth, llyfrau ffeithiol, llyfrau darluniau a nofelau. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi mewn mwy na 10 iaith wahanol ac mae wedi ennill gwobrau yn y DU, yr Unol Daleithiau, Ewrop ac Asia. Yn 2017, hi oedd derbynnydd cyntaf gwobr y School Library Association am Gyfraniad Neilltuol at Lyfrau Ffeithiol i Blant. Roedd The Promise (gyda Laura Carlin), ei llyfr darluniau, ar restr The New York Times o lyfrau darluniau'r flwyddyn a chrëwyd ffilm animeiddiedig ohono i'r BBC. Sbardunodd The Day War Came (gyda Rebecca Cobb) ymgyrch ar-lein, ‘3,000 o gadeiriau’, i gefnogi plant ar eu pen eu hunain sy'n ffoaduriaid. Mae ei nofel ddiweddar i oedolion ifanc, The Song that Sings Us, wedi cael ei henwebu ar gyfer Medal Yoto Carnegie. The Star Whale yw ei thrydydd cydweithrediad â Petr Horáček. Cyrhaeddodd y cyntaf, casgliad o farddoniaeth o'r enw A First Book Of Animals, y rhestr fer ar gyfer medal CILIP Kate Greenaway. Mae Nicola yn cynnal gweithdai rheolaidd i helpu plant ac oedolion i ddod o hyd i'w lleisiau fel ysgrifenwyr ac ymgyrchwyr dros fyd natur. Mae'n byw yn Sir Benfro, Cymru.

Petr Horáček photo

Mae Petr Horáček wedi ennill llawer o wobrau rhyngwladol fel crëwr llyfrau darluniau. Mae ei waith celf llachar, llawn mynegiant yn cyd-fynd yn berffaith â geiriau sy'n siarad yn uniongyrchol â phlant. Ganwyd Petr ym Mhrag ac astudiodd yn yr Academi Celfyddyd Gain. Yn ei arddegau, byddai'n mynd allan ac yn paentio yn y goedwig, ac mae ei ymdeimlad am fywyd gwyllt yn amlwg iawn yn ei ddarluniadau. Symudodd i'r DU ym 1994 a chyhoeddwyd ei lyfrau darluniau cyntaf yn 2001. Mae'n cynnal gweithdai hynod boblogaidd mewn ysgolion a siopau llyfrau, ac mewn gwyliau llyfrau. Meddai un athro: “Mae'n gwneud i bob plentyn deimlo fel y plentyn mwyaf arbennig yn yr ystafell.” Mae Petr hefyd yn tiwtora myfyrwyr darlunio. Ei lyfrau eraill ar gyfer Otter-Barry Books yw The Last Tiger a The Perfect Present, a enwebwyd ar gyfer Medal Yoto Carnegie am Ddarlunio. Mae Petr yn byw yng Nghaerwrangon yn y DU.

Nicola Davies and Petr Horáček - The Star Whale

'The Star Whale' gan Nicola Davies Darluniwyd gan Petr Horáček

Darganfod pangolin wrth iddi nosi, hedfan ar gefn ystlum, ymweld â llew a chlywed am ei sefyllfa; rhoi cynnig ar gwlwm tafod gwyddor y gwyfyn, cyfarfod â chythreuliaid Tasmania ar noson allan ar yr ynys neu freuddwydio am y ci pum coes a’r gath tair coes! Yna dysgu am greadur anferthol go iawn o’r enw’r Titanosawrws a selacanthiaid anhygoel. Efallai y gwelwch chi las y dorlan a rhyfeddu ar gampwaith ei liw a’i lun, a gweld sut mae bywyd gwyllt yn dod i’r amlwg yn ein trefi dros nos

Mae’r cerddi hardd hyn yn asio’n berffaith gyda phaentiadau hyfryd Petr Horáček ac mae’r cyfuniad yn rhyfeddol – angerddol, chwareus, meddylgar a chyffrous. Fel y nico yn y gerdd olaf, bydd y llyfr gwych hwn yn rhoi adenydd ar eich calon a pheri iddi hedfan.