Robin Bennett photo

Roedd Robin Bennett yn meddwl ei fod am fod yn swyddog marchog ar ôl iddo dyfu i fyny ond roedd pawb arall yn sylweddoli na fyddai'n syniad da rhoi tanc dan ei ofal. Yna daeth yn gynorthwy-ydd torri beddau yn Llundain. Ar ôl hynny, rhoddodd bob gewyn ar waith wrth ddechrau busnesau (popeth o ofalu am gŵn i sigârs, o diwtora i gyfieithu) ... nes iddo fynd ati o'r diwedd i ysgrifennu straeon annhebygol er mwyn difyrru ei blant ar deithiau hir yn y car.
Mae Robin yn chwarae'r rhan fwyaf o gampau. Yn wael.  

Robin Bennett - Monster Max and the Bobble Hat of Forgetting

'Monster Max and the Bobble Hat of Forgetting' gan Robin Bennett

Mae Max yn blentyn 9 oed anarferol. Mae’n gallu troi ei hun yn anghenfil enfawr sy’n gallu bwyta biniau drwy DORRI GWYNT. Mae bod yn anghenfil yn wych, oni bai ei fod yn tisian (sy’n ei droi yn ôl yn fachgen bach) ac mae’n bell o’i gartref yn gwisgo dim ond ei drôns.

Mae Max yn penderfynu bod yn fwy cyfrifol, a gwarchod a gwneud pethau da, gan gychwyn gyda dal fandal lleol. Ond mae ei brif wrthwynebydd, Peregrine, yn argyhoeddedig mai Max yw’r fandal, ac mae’n dyfeisio peiriant arbennig i’w ddal. Os yw Peregrine yn gallu profi’r gwir, gallai Max a’i fam gael eu rhoi mewn sw... neu waeth. Bydd yn rhaid i Max ddefnyddio ei synnwyr a’i gryfder i ddal y troseddwr go iawn, cyn i Peregrine ei ddal yntau…

Robin Bennett - Monster Max and the Marmalade Ghost

'Monster Max and the Marmalade Ghost' gan Robin Bennett

Mae Max yn fachgen cyffredin, heblaw ei fod yn gallu troi’n anghenfil pan mae’n torri gwynt…

Mae Max a Peregrine yn gwirfoddoli mewn cartref hen bobl pan mae pethau od yn dechrau digwydd. Mae un preswylydd yn cerdded ar y nenfwd, mae un yn reidio cadair olwyn drwy waliau, ac mae Reggie yn dweud bod ysbryd yn ei farmalêd (does neb yn cymryd sylw). Fydd Max a’i ffrindiau yn gallu datrys beth sy’n digwydd er mwyn amddiffyn ei deulu a’r gymuned leol?

Dydy pethau ddim yn edrych yn dda: mae ysbryd y marmalêd yn troi’n fwystfil gludiog, mae Max yn ffraeo gydag un o’i ddau ffrind gorau, a phan mae’n anodd i bethau fynd ddim gwaeth, mae rhywun yn herwgipio cath Max, Frankenstein…

Robin Bennett - Monster Max …This Time It’s Sirius

'Monster Max...This Time It's Sirius' gan Robin Bennett

Mae Max yn gallu troi’n anghenfil enfawr dim ond drwy DORRI GWYNT.

Mae eisiau bod yn anghenfil da drwy warchod a gwneud pethau da.

Pan fydd Max a’i ffrind gorau Peregrine yn sylweddoli bod haid beryglus o fleiddiaid o Krit, gwlad enedigol Max, yn closio, mae Peregrine yn mynd ati i adeiladu tŷ pen coeden caerog i’w cadw’n ddiogel. Ond mae sylw Max yn crwydro, a dydy o ddim eisiau helpu. Dydy o ddim wedi dweud wrth neb ei fod wedi dod o hyd i genau blaidd amddifad, wedi sleifio’r creadur i mewn i’w dŷ a phenderfynu ei gadw…