Ivor Baddiel credit Thomas Skosvende

Cyn dod yn sgriptiwr teledu a radio sefydledig, bu Ivor Baddiel yn weithiwr cymdeithasol ac yn athro ysgol gynradd. Ers hynny mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar gyfer rhaglenni teledu ar draws nifer o sioeau comedi ac adloniant gan gynnwys THE X FACTOR, THE BAFTAS ac I'M A CELEBRITY, GET ME OUT OF HERE. Mae hefyd yn awdur 18 llyfr i blant ac oedolion.

'Britain's Smartest Kid...on Ice!' gan Ivor Baddiel

'Britain’s Smartest Kid…on Ice!' gan Ivor Baddiel

Mae’r plant peniog hyn yn hynod boblogaidd! Mae angen i Marsham oroesi cystadleuaeth deledu lle maen nhw’n profi mwy na dim ond gwybodaeth gyffredinol , maen nhw’n profi popeth... Wrth wylio’r cwis gyda’i deulu, mae Marsham yn gallu ateb bron pob un o’r cwestiynau, felly pan mae ei fam-gu yn awgrymu y dylai ymgeisio ar gyfer sioe plentyn clyfra’ Prydain mewn cuddwisg... mae Marsham yn mynd amdani! Ond mae pob math o bethau annisgwyl yn digwydd – ac un ohonyn nhw yw bod rhai heriau yn cael eu cynnal ar rew! Mae’r gystadleuaeth yn ffyrnig, ac mae un o’r cystadleuwyr yn fodlon gwneud unrhyw beth i ennill. A fydd Marsham yn llwyddo i dwyllo’r lleill a hawlio’r wobr heb ddatgelu pwy ydy o go iawn – neu ydy o’n mynd i ddisgyn yn glewt ar ei wyneb? Mae’r awdur Ivor Baddiel yn awdur comedi sydd wedi gweithio’n helaeth ar gyfresi realiti teledu – felly mae’r nofel hynod ddigri hon yn seiliedig ar brofiad! Mae’r llyfr yn llawn o ddarluniau bywiog gan James Lancett. Mae’n berffaith ar gyfer selogion sioeau fel The X Factor, Britain’s Got Talent, The Voice, Child Genius, Dancing on Ice – a darllenwyr Britain’s Biggest Star... Is Dad?

'Britain’s Biggest Star...Is Dad?' by Ivor Baddiel

'Britain’s Biggest Star...Is Dad?' gan Ivor Baddiel

Nofel ddirgel ddoniol am ddau blentyn yn ceisio achub sioe dalent orau’r DU rhag drwgweithredwr dirgel!

"Mae hwn mor dda, mae’n fy ngwylltio!”
– David Baddiel 

“Mae Ivor yn awdur doniol, clyfar a gwych, felly dydy hi fawr o syndod ei fod wedi ysgrifennu llyfr mor ddoniol, clyfar a gwych, sydd hefyd yn dwymgalon ac yn llawn llawenydd. Mae’r dyn yn rhyfeddod.” – Dermot O’Leary 

“Bydd plant yn mynd yn wallgo am y llyfr gwych hwn!" "Mae Ivor Baddiel yn adrodd chwip o stori dda – gwamal, afieithus a doniol iawn”  – Mel Giedroyc 

Mae hwn yn llyfr dirgelwch hynod ddoniol i blant” – Peter Dickson (llais The X Factor) 

Mae rhywun yn bygwth dinistrio Britain’s Biggest New Star, hoff sioe dalent deledu’r deyrnas.

Mae’r gwasanaeth cudd yn penderfynu anfon dau ysbïwr ifanc, yr efeilliaid Harry ac Abby, i ymchwilio. Maen nhw’n cael mynediad i’r ardal gefn llwyfan diolch i’w tad, y comedïwr ffaeledig Gus, sy’n credu mai dyma yw ei gyfle i adfywio ei yrfa. Mae’r rhestr o bobl dan amheuaeth yn hir, a dydy’r efeilliaid ddim yn gwybod ym mhwy i ymddiried. Ond mae’n well iddyn nhw gael gafael ar y troseddwr reit handi, cyn i’r sioe – a’i gwestai brenhinol – wynebu trychineb!

  • Stori ysbïo chwimwth sy’n llawn chwerthin a throeon annisgwyl, gan yr awdur comedi Ivor Baddiel – rhywun sy’n deall bywyd cefn llwyfan ar hoff sioeau talent Prydain!
  • Perffaith ar gyfer selogion llyfrau David Walliams a Tom Fletcher, a Vi Spy gan Maz Evans.