Helen Docherty photo

Mae Helen Docherty yn awdur o Abertawe y mae ei llyfrau lluniau sy’n odli wedi'u cyhoeddi'n rhyngwladol. Mae ei straeon wedi eu cyfieithu i 27 o ieithoedd, wedi'u haddasu ar gyfer y llwyfan, ac wedi'u gosod i gerddoriaeth. Mae The Snatchabook a The Knight Who Wouldn't Fight, y ddau ohonynt wedi'u darlunio gan Thomas Docherty, wedi ennill gwobrau llyfrau y gwnaeth plant ysgol bleidleisio drostynt, ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer amryw o wobrau llyfrau cenedlaethol. Mae Helen yn mwynhau helpu plant ac oedolion i ysgrifennu eu straeon eu hunain, ac ymweld ag ysgolion ac yn cyflwyno gweithdai’n rheolaidd. Mae ei llyfr diweddaraf, Someone Just Like You, yn cynnwys darluniadau David Roberts ac fe'i disgrifiwyd gan Laura Padoan o Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig fel un "hollol brydferth... gyda neges bwysig o undod a thosturi y bydd plant wir yn cysylltu â hi."

Thomas Docherty photo

Ers iddo godi comig Asterix yn ei lyfrgell leol pan oedd yn blentyn, mae Thomas Docherty wedi ymddiddori yn y ffordd y gallwch roi geiriau a lluniau gyda'i gilydd i adrodd stori. Bellach mae wedi cyhoeddi dros 30 o lyfrau, y mae pobl yn eu mwynhau ym mhedwar ban byd. Cafodd rhai o'i lyfrau mwyaf poblogaidd eu creu gan ei wraig, yr awdur i blant Helen Docherty. Lle bynnag y bo'n bosib, mae Thomas yn mwynhau ymweld ag ysgolion a llyfrgelloedd i siarad â phlant am ei waith a'u helpu i ysgrifennu a darlunio eu straeon eu hunain.

Helen and Thomas Docherty - The Screen Thief

'The Screen Thief' gan Helen Docherty. Lluniau gan Thomas Docherty

Gofala di! Mae Snaffle ar hyd y lle a bydd hi'n bwyta dy sgrîn fel byrbryd! Wrth i'r Snaffle gyrraedd y ddinas, mae ei bryd ar chwarae, ond mae pawb yn rhy brysur yn syllu ar eu sgriniau.

Mae'r Snaffle yn darganfod ei bod hithau'n hoffi sgriniau

- fel brybryd! Wrth iddi gnoi pob un sgrîn yn y ddinas, dyna pryd mae'r hwyl yn dechrau o ddifrif. ..

Rho dy sgrîn o'r neilltu, mae'n amser chwarae yn y stori gynnes, ddoniol ac amserol iawn hon gan y tîm a greodd The Snatchabook.

Stori sy'n odli, â lluniau lliwgar, y gall y teulu cyfan ei mwynhau!

Helen a Thomas Docherty yw awdur a darlunydd The Snatchabook, The Knight Who Wouldn't Fight ac Abracazebra

Helen and Thomas Docherty - The Bee Who Loved Words

'The Bee Who Loved Words' gan Helen Docherty

Mae PŴER gan ein geiriau!

A does neb yn deall hyn yn well na Persephone'r wenynen.

Astronaut a telescope
Rhinoceros; kaleidoscope
Pterodactyl; saxophone
Pomegranate; xylophone!

Mae Hermione'r famwenynen yn meddwl dylai Persephone dreulio llai o amser gyda geiriau a mwy o amser yn chwilio am flodau, y mae'n fwyfwy anodd dod o hyd iddynt.

Ond beth os yw Persephone'n gallu defnyddio ei geiriau i helpu?

Ymunwch â Persephone yn y stori hon sy'n odli, i'w darllen yn uchel a'i darllen eto, am bŵer ein geiriau yn ogystal â thasg bwysig, sef gwarchod ein gwenyn. Yn llawn lluniau lliwgar a digon o chwarae ar eiriau, The Bee Who Loved Words yw'r ffordd berffaith o gyflwyno pleser iaith i'ch plentyn.

Helen and Thomas Docherty - Into the Wild

'Into the Wild' gan Thomas Docherty

Un noson, mae Joe yn gadael ei ffenestr ar agor a chyda chwyrlïad deil a churiad adenydd, mae'r Gwyllt yn ei wahodd i ddod allan ac archwilio'r ddinas gyda'r nos.

Mae Joe yn dysgu bod anifeiliaid a phlanhigion yn gallu ffynnu hyd yn oed yn yr amgylchedd mwyaf adeiledig a chydag ychydig o ddychymyg, y gall y ddinas fod yn llawn yr annisgwyl.

Helen and Thomas Docherty - Someone Just Like You

'Someone Just Like You' gan Helen Docherty

Llyfr darluniadol hollbwysig, sy'n deimladwy iawn ac sy'n annog empathi a charedigrwydd.

Rywle yn y byd hwn, mae rhywun sy'n union fel ti,

sy'n chwerthin am yr un pethau â thi ac yn yr un ffordd â thi.

Wyt ti erioed wedi meddwl efallai fod rhywun yn rhywle sy'n union fel ti? A tase dy angen di arnyn nhw, fyddet ti'n eu helpu?

Mae odlau telynegol Helen Docherty yn cyd-fynd yn berffaith â darluniadau hyfryd a meddylgar David Roberts.  Mae gwaith y ddau'n cyfuno i greu llyfr darluniadau sydd mor angenrheidiol ag y mae'n hardd.