Mae Angela Kecojevic yn awdur llyfrau plant ac yn uwch-lyfrgellydd. Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar gyfer rhaglen Coeden Ddarllen Rhydychen a hi yw'r awdur sy'n gyfrifol am barc antur arobryn Hobbledown. Mae'n aelod o'r Climate Writers Fiction League, grŵp o awduron rhyngwladol sy'n defnyddio materion yr hinsawdd yn eu gwaith. Caiff Scareground, ei nofel arswyd gyntaf i blant iau, ei chyhoeddi yn 2023. Mae'n byw yn Rhydychen gyda'i theulu.
'Scareground' gan Angela Kecojevic
Dewch yn llu, dewch yn llu, mae ffair arswydus yn y dref!
Mae Nancy Crumpet, sy’n ddeuddeg oed, yn byw uwchben becws ac mae ei bywyd yn gymysgedd hyfryd o flawd, halen a chariad. Ond mae ei meddwl yn llawn cwestiynau na all neb eu hateb: Pam wnaeth ei rhieni biolegol ddiflannu? Pam mae hi’n gallu siarad â’r awyr? A pham mae’n rhaid iddi gadw ei man geni rhyfedd yn gyfrinach?
Mae popeth ar fin newid pan ddaw’r ffair yn ôl i Greenwich. Mae Nancy yn argyhoeddedig bod cysylltiad rhyngddi a diflaniad ei rhieni. Mae Nancy a’i ffrind gorau Arthur Green yn cyfarfod â pherchennog annymunol y ffair, Skelter, ac yn darganfod byd sy’n llawn hud tywyll a dirgelwch. Rhaid i Nancy wynebu ei hofnau mwyaf er mwyn dysgu’r gwir. Ond ydy hi’n barod am yr holl gyfrinachau fydd yn cael eu datgelu yn y ffair?