Wedi ymgyrchu dros Greenpeace ers blynyddoedd, mae Catherine Barr yn newyddiadurwr profiadol a daeth i fod yn olygydd yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol. Mae Catherine bellach yn ysgrifennu llyfrau ffeithiol â'r nod o ysbrydoli plant i archwilio, deall a chymryd camau i amddiffyn y byd naturiol, a byw yn agos i ffin Powys a'r bryniau Cymreig. Mae hi'n Noddwr Darllen balch dros ysgol leol ac yn ymweld ag ysgolion ledled y wlad i gynnal gweithdai a ysbrydolwyd gan ei nofelau, ac roedd yn noddwr Her Ddarllen yr Haf Powys.Mae The Tiger's Tale yn stori wir anhygoel o sut y cafodd teigrod eu hail-gyflwyno i Warchodfa Teirgrod Panna yn India.
'The Tiger’s Tale' gan Catherine Barr
Stori wirioneddol anhygoel arall am ddad-ddofi tir gan awdur yr hyfryd Fourteen Wolves.
Yn wych, yn bwerus ac yn hynod, mae’r teigr yn un o anifeiliaid mwyaf eiconig y byd. Mae hefyd yn un o’r rhai sydd fwyaf mewn perygl. Am gannoedd o flynyddoedd, mae’r bwystfilod eithriadol hyn wedi cael eu hela, nes maen nhw bron â diflannu am byth. Sut allwn ni eu hachub?
Mae’r stori afaelgar hon yn adrodd stori wir gythryblus am ddiflaniad trasig teigrod o warchodfa deigrod Panna yn India ac, i gloi, hanes arwrol eu dychweliad. Rydyn ni’n dilyn grŵp o deigrod, pob un â’i nodweddion unigol ei hun, ar eu hanturiaethau. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n dysgu sut mae arbenigwyr yn cyflwyno teigrod i’r warchodfa ac yn eu tracio wrth iddyn nhw archwilio, hela, chwarae, nofio, paru ac ymgartrefu yn y goedwig. Fodd bynnag, mae mwy i’r hanes na hynny – ac mae peryglon yn llechu yng nghysgod y goedwig werdd.
Wrth gyfuno dawn adrodd stori hudolus a gwybodaeth ffeithiol glir gan yr eco-arbenigwr Catherine Barr a darluniau manwl gan Tara Anand, mae’r stori hon yn dangos pam mae cadwraeth teigrod mor bwysig.
‘Mae llyfr Catherine Barr yn ein hatgoffa ni i gyd fod bygythiad masnach teigrod yn dal yno, ac nad oes lle i fod yn hunanfodlon.’ EIA (Asiantaeth Archwilio Amgylcheddol)