Mae straeon byr Laura Morris wedi ymddangos yn The Dublin Review, The Lonely Crowd, Banshee a Southword. Mae hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Cystadleuaeth Ryngwladol Straeon Byr Seán Ó Faoláin a hi yw enillydd Cystadleuaeth Straeon Byr Rhys Davies ar gyfer 2022. O Gaerffili'n wreiddiol, mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd lle mae hi'n dysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.
