Dathliad yng nghwmni prifeirdd, llefarwyr a cherddorion
Alan Llwyd, Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023. Yn un o’n prifeirdd mwyaf amlwg ers cenedlaethau, llwyddodd Alan Llwyd i ennill y ‘dwbl’, sef y Gadair a’r Goron yr un flwyddyn - a hynny ddwywaith - yn 1973 ac 1976. Alan Llwyd yw'r bardd cyntaf ers llacio'r rheol 'ennill ddwywaith yn unig' i ennill y Gadair Genedlaethol am y trydydd tro.
Cynhelir dathliad i gyfarch yr Athro Alan Llwyd yng nghwmni prifeirdd, llefarwyr a cherddorion lleol ar nos Fawrth, 17eg Hydref, 2023 am 6.30pm yng Nghanolfan Calon Lân, Mynyddbach. Mae mynediad am ddim a chroeso cynnes i bawb! Bydd casgliad yn ystod y noson tuag at Cronfa Goffa Hywel Teifi.
Alan Llwyd, sy’n byw yn Nhreforys, Abertawe, yw’r bardd cyntaf ers llacio’r rheol ‘ennill ddwywaith yn unig’ i ennill y Gadair am y trydydd tro. Cyflwynwyd y Gadair eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Llif. Y beirniaid oedd Karen Owen, Cathryn Charnell-White a Rhys Iorwerth.
Wrth draddodi ar ran y beirniaid, dywedodd Karen Owen: “Yr oedd hi'n glir o'r dechrau mai Llanw a Thrai yw cynganeddwr gorau'r gystadleuaeth. Yn bersonol, fe dyfodd y gwaith hwn arnaf efo pob darlleniad. Er mai stori gyfarwydd iawn i Gymry Cymraeg ein cyfnod ni sydd yma, sef gadael bro cyn dychwelyd degawdau'n ddiweddarach yn llawn hiraeth euog.
“Y bardd hwn, yn fwy na neb arall, a gafodd y weledigaeth gliriaf ar gyfer ei destun. Dyma’r bardd hefyd a lwyddodd orau i droi’r weledigaeth honno yn farddoniaeth ddealladwy, ddarllenadwy sy’n rhoi mwynhad. Mae strwythur ei awdl yn syml: gŵr cymharol hen yn dychwelyd i fro’i febyd. Mae llanw’r môr a’r holl ddelweddau cysylltiedig yn rhoi’r cyfle iddo wedyn fyfyrio am ei linach a’i deulu, am olyniaeth, am yr hyn a fu a’r hyn a fydd.”
Roedd gwraig, plant ac wyrion Alan Llwyd yn bresennol yn ystod y seremoni, a dywedodd y prifardd bod y profiad o gael ei gadeirio o flaen ei deulu, a hynny ym mro ei febyd, yn “brofiad gwefreiddiol”.
Ganed Alan Llwyd yn Nolgellau yn 1948. Bu’n byw ym mhentref Llan Ffestiniog ym Meirionnydd hyd at 1953, ac o bump oed fe’i magwyd ar fferm yn Llŷn. Yn Llŷn y treuliodd weddill ei blentyndod yn ogystal â’i lencyndod. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog hyd at 1967, pan aeth i’r Brifysgol ym Mangor i astudio Cymraeg.
Graddiodd yn y Gymraeg yn 1970, ac wedi hynny bu’n gweithio yn siop lyfrau Awen Meirion yn y Bala am ddwy flynedd, cyn symud i Abertawe yn 1976 i weithio fel golygydd i Wasg Christopher Davies. Rhwng 1980 a 1982 bu’n gweithio i’r Cydbwyllgor Addysg yng Nghaerdydd, ac o 1982 ymlaen, bu’n gweithio’n llawn-amser i’r Gymdeithas Gerdd Dafod, sef Cymdeithas Barddas, y gymdeithas a sefydlwyd ganddo ef ei hun yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.
Bu’n gweithio i Barddas am bron i ddeng mlynedd ar hugain, yn hybu barddoniaeth, ac yn golygu cylchgrawn a chyhoeddiadau’r Gymdeithas. Cyhoeddodd dros 300 o lyfrau yn ystod ei gyfnodau fel cyhoeddwr a golygydd i wahanol sefydliadau. Alan Llwyd, ar y cyd â’r diweddar Penri Jones, a sefydlodd Llanw Llŷn, papur bro Pen Llŷn.
Fel bardd a llenor, mae wedi cyhoeddi dros 80 o lyfrau, gan gynnwys tri chasgliad cyflawn o gerddi. Enillodd gategori Ffeithiol-Greadigol Llyfr y Flwyddyn yn 2013 a 2020, a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2019. Yn 2018, enillodd Dlws Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am gyfraniad arbennig i’r byd cyhoeddi. Y mae wedi ennill dros 50 o wobrau llenyddol hyd yn hyn. Yn 1993, enillodd wobr BAFTA Cymru am y Sgript Ffilm Orau yn Gymraeg, sef sgript y ffilm Hedd Wyn.
Cyhoeddwyd ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Cyfnos, ym mis Chwefror eleni.