Mae’r Athro Tudur Hallam, Athro’r Gymraeg yn Academi Hywel Teifi, wedi derbyn Ysgoloriaeth Fulbright a fydd yn caniatáu iddo gychwyn ar brosiect ymchwil newydd yn yr Unol Daleithiau.
Mae Ysgoloriaeth Fulbright yn wobr ryngwladol, gystadleuol a ddyfernir ar sail teilyngdod a rhagoriaeth, a’r nod yw datblygu arweinwr y dyfodol.
Bydd yr Athro Hallam wedi’i leoli ym Mhrifysgol Houston, Tecsas, am saith mis, lle y bydd yn cydweithio ag academyddion o’r Brifysgol ar ei brosiect, ‘Ail-lunio dyfodol diwylliant: cymharu sefyllfa’r Gymraeg â threftadaeth Sbaenaidd Unol Daleithiau’r Amerig’. Cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth eleni gan Matthew Barzun, llysgennad Unol Daleithiau’r Amerig i’r DU yn ei gartref swyddogol, Winfield House, ym mis Mehefin.
Nod y prosiect yw cymharu sefyllfa’r Gymraeg a’i llenyddiaeth â'r gwaith mwy diweddar i adfer treftadaeth lenyddol Sbaenaidd yr Unol Daleithiau. Edrychir ar batrymau cyffredin rhwng dwy iaith a dau ddiwylliant (Cymraeg yng Nghymru a Sbaeneg yn yr Unol Daleithiau) sydd yn gorfod ymdopi â grym y diwylliant Saesneg mwyafrifol.
Meddai’r Athro Hallam: “Bydd yr ymchwil yn edrych ar sut y mae’r diwylliant Saesneg yn defnyddio ystrydebau i wthio'r is-ddiwylliant i'r cyrion, a sut mae'r is-ddiwylliant yn ei dro yn gwrthod y symleiddio a'r lleihau hwn drwy ddathlu cyfoeth diwylliannol yr iaith, gan fynnu hawliau wedyn ym maes addysg, y cyfryngau a'r gyfraith. Mewn cyfnod lle y mae hunaniaeth a diwylliant yn chwarae rôl amlwg iawn yn y byd gwleidyddol, bydd yr ymchwil yn berthnasol iawn i bob math o drafodaethau yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Tecsas ac Unol Daleithiau’r Amerig.”
Bydd yr Athro Hallam yn gweithio gyda’r Athro Nicolás Kanellos, gŵr a benodwyd i bwyllgor cynghori gan y cyn-Arlywydd Clinton ac sydd ymhlith enwau amlycaf maes astudiaethau Sbaenaidd. Cynhelir cynhadledd ryngwladol fawr yn Houston ym mis Chwefror 2016, a’r gobaith yw y bydd eraill o Gymru yn ymuno â’r Athro Hallam i drafod y gymhariaeth rhwng sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru a’r Sbaeneg yn yr Unol Daleithiau.
Meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-ganghellor Hŷn y Brifysgol: ‘Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol Gymreig ac iddi uchelgais rhyngwladol. Mae ysgoloriaeth ryngwladol y Comisiwn Fulbright yn tystio i safon uchel yr ymchwil a sicrhaodd fod Abertawe ymhlith y deng prifysgol ar hugain uchaf yn y DU yng nghanlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014).’
Comisiwn Fulbright y DU-UDA yw’r unig raglen ysgoloriaeth drawsatlantig sy’n cynnig gwobrau ymchwil ym mhob maes academaidd. Mae’r Comisiwn yn dewis ei ysgolheigion drwy gyfrwng proses gais fanwl iawn, a thrwy gyfweliadau. Nid rhagoriaeth academaidd yw’r unig faen prawf i’r Comisiwn. Bydd hefyd yn edrych am ymgeiswyr a chanddynt nod ac amcan clir, ystod o brofiadau allgyrsiol a chymunedol, sgiliau llysgenhadol amlwg a dyhead i wella’r Rhaglen Fulbright ar ôl iddynt ddychwelyd i’w mamwlad.